
Amdanom Ni
Gemau’r Gymanwlad Cymru (GGC) yw’r corff arweiniol ar gyfer chwaraeon y Gymanwlad yng Nghymru, ac mae ein haelodaeth yn cynnwys holl Cyrff Llywodraethu Cymru.
Mae Gemau Cymanwlad Cymru yn gyfrifol am ddewis, paratoi ac arwain Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad a Gemau Ieuenctid y Gymanwlad. Ar gyfer pob Gemau, ein nod yw darparu’r tîm sydd wedi’i baratoi mor dda â phosibl, creu amgylchedd ysbrydoledig a darparu arweinyddiaeth gref. Rydym hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth y holl Gymanwlad drwy ymgysylltu â phob unigolyn yng Nghymru a chymunedau Cymreig ar draws y Gymanwlad.
Rydym yn un o 74 o Gymdeithasau Gemau’r Gymanwlad sy’n aelodau o Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad (FGG). Y FGG yw’r rhiant gorff ar gyfer y Gemau, sy’n gyfrifol am ei gyfeiriad a’i reolaeth, ac rydym yn cefnogi ei genhadaeth i ‘uno’r Gymanwlad trwy chwaraeon’. Mae Gemau Cymanwlad Cymru yn un o’r 6 gwledydd sydd wedi cystadlu ym mhob un o’r Gemau ers ei lansiad yn 1930.
Nod Gemau Cymanwlad Cymru yw i barhau efo’r cynlluniau i adeiladu ymhellach ar ei llwyddiant uchaf erioed yn Birmingham 2022 , wrth ddarparu profiadau cadarnhaol ac ysbrydoledig sydd yn newid bywydau wrth fynd mewn i Gemau nesaf y Gymanwlad.